Nonviolent Communication (NVC) Wales

Cyfathrebu Di-drais (NVC) Cymru

Explore NVC Training Wales: find Nonviolent Communication courses, events, practitioners and practice groups to learn, connect and grow.
Image by: Penny Spawforth (Spirit of NVC camp, Pembrokeshire)

What's happening in Wales? / Beth sy'n digwydd yng Nghymru?

While there may not appear to be many NVC trainers in Wales (yet!), there's more going on beneath the surface than first meets the eye. A growing number of NVC learners and enthusiasts are dotted across the country.

This page aims to gather what we know about NVC in Wales. In time, we hope it will become a hub of information, connecting NVC learners across Wales


Beth sy'n digwydd yng Nghymru?

Er nad oes yna, i bob golwg, lawer o hyfforddwyr NVC yng Nghymru (eto!), mae mwy yn digwydd o dan yr wyneb nag sy'n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Mae nifer cynyddol o ddysgwyr ac selogion NVC wedi'u gwasgaru ar draws y wlad.

Nod y dudalen hon yw casglu'r hyn rydyn ni'n ei wybod am NVC yng Nghymru. Gyda amser, rydyn ni'n gobeithio y bydd yn dod yn ganolbwynt gwybodaeth, gan gysylltu dysgwyr NVC ar draws Cymru

NVC Facilitators in Wales / Hwyluswyr NVC yng Nghymru

The facilitators featured below are the members of NVC Matters UK (CIC) who are based in Wales.

  • Those who have been certified with the global Centre for Nonviolent Communication (CNVC*) are clearly marked
  • Those who aren't CNVC certified still have extensive experience in living and sharing NVC

* CNVC is the international non-profit organisation founded by Marshall Rosenberg. This organisation is the only globally recognised organisation to offer assessment and certification for trainers.
** You can see what we at NVC Matters ask from our members before we will list them in the FAQs here

Click on a profile to learn more about each facilitator and their current offerings.

 

Hwyluswyr NVC yng Nghymru

Mae'r hwyluswyr a restrir isod yn aelodau o NVC Matters UK (CIC) sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.

  • Mae'r rhai sydd wedi'u tystysgrifo gyda'r Ganolfan fyd-eang ar gyfer Cyfathrebu Di-drais (CNVC) wedi'u nodi'n glir
  • Mae gan y rhai nad ydynt wedi'u tystysgrifo gan CNVC brofiad helaeth o hyd o fyw a rhannu NVC

* CNVC yw'r sefydliad dielw rhyngwladol a sefydlwyd gan Marshall Rosenberg. Dyma'r unig sefydliad a gydnabyddir yn fyd-eang sy'n cynnig asesu a thystysgrifo ar gyfer hyfforddwyr.
** Gallwch weld beth mae NVC Matters yn ei ofyn gan ein haelodau cyn i ni eu rhestru yn yr Cwestiynau Cyffredin yma

Cliciwch ar broffil i ddysgu mwy am bob hwylusydd a'u cynigion presennol.

NVC and the Welsh Language / NVC a'r Gymraeg

At the heart of Nonviolent Communication is the belief that every person matters, every voice deserves to be heard, and strong communities are built through understanding, empathy and connection. These values feel deeply at home in Wales.

As NVC facilitators, we recognise that language is far more than a way of communicating. It carries history, identity, belonging and culture. We believe that supporting Cymraeg (the Welsh language) is one way of helping these rich traditions continue to flourish for future generations.

We are a small, volunteer-led organisation with limited resources, but we are committed to making Nonviolent Communication (NVC) more accessible through Cymraeg. Our hope is to support people in learning and practising NVC in the language that feels most natural to them.

As we grow, we hope to:

  • Develop Welsh-language feelings and needs cards to support learning and everyday practice.
  • Encourage schools, organisations and communities across Wales to use NVC as a practical way of navigating conflict, deepening relationships and building compassionate, connected cultures.
  • Translate more NVC resources into Welsh, including Marshall Rosenberg's Nonviolent Communication: A Language of Life, making these ideas available to more people in their first language.

This page is our first small step. We look forward to continuing this journey, working alongside Welsh speakers and the wider NVC community to make these resources increasingly available in both Welsh and English.

NVC a'r Gymraeg

Wrth galon Cyfathrebu Di-drais (NVC) mae'r gred fod pob person yn bwysig, fod pob llais yn haeddu cael ei glywed, ac mai drwy ddealltwriaeth, empathi a chysylltiad y caiff cymunedau cryf eu hadeiladu. Mae'r gwerthoedd hyn yn teimlo'n gwbl gartrefol yng Nghymru.

Fel hwyluswyr NVC, rydym yn cydnabod bod iaith yn llawer mwy na ffordd o gyfathrebu. Mae'n cario hanes, hunaniaeth, ymdeimlad o berthyn a diwylliant. Credwn fod cefnogi'r Gymraeg yn un ffordd o helpu'r traddodiadau cyfoethog hyn i ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rydym yn sefydliad bach sy'n cael ei arwain gan wirfoddolwyr ac sydd ag adnoddau cyfyngedig. Er hynny, rydym wedi ymrwymo i wneud Cyfathrebu Di-drais yn fwy hygyrch drwy gyfrwng y Gymraeg. Ein gobaith yw cefnogi pobl i ddysgu ac ymarfer NVC yn yr iaith sy'n teimlo fwyaf naturiol iddynt.

Wrth i'n sefydliad dyfu, ein dyhead yw:

  • Datblygu cardiau teimladau ac anghenion yn Gymraeg i gefnogi dysgu ac ymarfer bob dydd.
  • Annog ysgolion, sefydliadau a chymunedau ledled Cymru i ddefnyddio NVC fel ffordd ymarferol o lywio gwrthdaro, meithrin perthnasoedd dyfnach ac adeiladu diwylliannau mwy tosturiol a chysylltiedig.
  • Cyfieithu rhagor o adnoddau NVC i'r Gymraeg, gan gynnwys llyfr Marshall Rosenberg, Cyfathrebu Di-drais: Iaith Bywyd (Nonviolent Communication: A Language of Life), fel bod y syniadau hyn ar gael i fwy o bobl yn eu hiaith gyntaf.

Dyma ein cam cyntaf ar y daith hon. Edrychwn ymlaen at barhau arni ochr yn ochr â siaradwyr Cymraeg a'r gymuned NVC ehangach, gan wneud yr adnoddau hyn yn fwyfwy ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Training and Events in Wales (and online) / Hyfforddiant a Digwyddiadau yng Nghymru (ac ar-lein)

Training and community are at the heart of integrating NVC as a lived experience.

There are currently only a handful of NVC facilitators in Wales, though the number of people inspired by, and learning, NVC is steadily growing. If you can't find anyone in your area, do reach further afield and invite a trainer to come to you.

--------------

Hyfforddiant a Digwyddiadau yng Nghymru (ac ar-lein)

Mae hyfforddiant a chymuned wrth wraidd integreiddio Cyfathrebu Di-drais (NVC) fel profiad byw.

Ar hyn o bryd, dim ond llond llaw o hwyluswyr NVC sydd yng Nghymru, er bod nifer y bobl sy'n cael eu hysbrydoli gan, ac sy'n dysgu, NVC yn tyfu'n gyson. Os na allwch chi ddod o hyd i rywun yn eich ardal, ewch ymhellach a gwahoddwch hyfforddwr i ddod atoch chi.